Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Ionawr 2016

Amser: 09.20 - 12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3295


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Ann Jones AC (Cadeirydd)

Angela Burns AC

Suzy Davies AC

Lynne Neagle AC

David Rees AC

Aled Roberts AC

Simon Thomas AC

Rhodri Glyn Thomas AC

Tystion:

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jo-Anne Daniels, Llywodraeth Cymru

Huw Morris, Llywodraeth Cymru

Steven Davies, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Marc Wyn Jones (Clerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Michael Dauncey (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i'r cyfarfod, a diolchodd i David Rees am weithredu fel Cadeirydd dros dro.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a John Griffiths.  Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan. 

</AI1>

<AI2>

2       Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 - y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Gweinidog a'i swyddogion a diolchodd iddynt am eu papur manwl.

Datganodd Aled Roberts AC fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24; oherwydd bod ei wraig yn cael ei chyflogi yn y sector addysg bellach a'i bod yn gyfrifol am y Gymraeg a Chymraeg i Oedolion yng Ngholeg Cambria, a bod ei fab yn fyfyriwr amser llawn yn derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Holodd y Pwyllgor y Gweinidog ar gynigion y gyllideb ddrafft. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

3.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Addysg a Sgiliau - P-04-576 a P-04-606

</AI4>

<AI5>

3.2   Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17- Papur gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

</AI5>

<AI6>

3.3   Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyllido Canolfannau Cyswllt Plant yn y dyfodol

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

5       Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 - trafod y dystiolaeth

Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, a byddai llythyr yn cael ei anfon at y Pwyllgor Cyllid.

</AI8>

<AI9>

6       Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith hyd at ddiwedd y tymor.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>